Cofnodion

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 19 Tachwedd, 2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i bedwerydd cyfarfod 2014 a’r cyfarfod olaf am eleni. 

 

Roedd yr Aelodau Cynulliad a ganlyn yn bresennol yn y cyfarfod: Aled Roberts; Alun Davies; Antoinette Sandbach; John Griffiths; Paul Davies; Peter Black; Y Fonesig Rosemary Butler; Rhodri Glyn Thomas; a William Powell.

 

Roedd cynrychiolwyr o swyddfeydd Keith Davies; Rebecca Evans a Simon Thomas hefyd yn bresennol.

 

2 CYFLWYNIADAU

2.1 Nododd Mark Isherwood fod y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae’r gyllideb yn cynnwys cynnig i drosglwyddo’r arian sydd wedi’i neilltuo ar hyn o bryd ar gyfer awtistiaeth i’r Grant Cynnal Refeniw.

 

2.2 Amlinellodd Meleri Thomas, NAS Cymru bryderon a godwyd gan eu haelodau ac eraill, ynghylch yr oedi a oedd i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a ddiweddarwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r cynnig i ddileu’r amddiffyniad o ran yr arian awtistiaeth a gaiff awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth awtistiaeth. Mewn ymateb i farn yr aelodau, nad oedd awtistiaeth bellach yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac nad yw’r strategaeth yn gweithio, cadarnhaodd y NAS y byddai’n cefnogi ei aelodau o ran galw am Ddeddf Awtistiaeth yng Nghymru.

 

 2.3 Dywedodd Lisa Rapado, Aelod o Gangen Ystradgynlais, er bod y strategaeth hon wedi cael rhywfaint o lwyddiant, ar y cyfan, mae pobl yn cael cam, ac maent yn ddig bod yn rhaid iddynt ymladd mor chwyrn i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Ychwanegodd ei bod yn bwysig nad yw pobl ag awtistiaeth yn anweledig o ran gwasanaethau erbyn hyn, ac y byddai hi yn llwyr gefnogi Deddf Awtistiaeth. 

 

2.3 Darllenodd Kerry Thomas, o Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Tudful ddatganiad i’r Grŵp Trawsbleidiol. Amlinellodd y diffyg darpariaeth ym Merthyr, a dywedodd na ddylai awtistiaeth fod yn fater o lwc yn ôl cod post. Mae’r grŵp cymorth yn credu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mesur buddion y strategaeth awtistiaeth drwy geisio barn y rhai yr oedd y strategaeth wedi’i llunio i’w helpu yn benodol, ac i ymateb drwy gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau y caiff gwasanaethau awtistiaeth eu darparu yn ôl y bwriad.

 

2.4 Nododd Nicola Williams, Swyddog Cangen Blaenau Gwent ei chefnogaeth i ganghennau NAS eraill. Dywedodd fod y gwasanaethau awtistiaeth yn yr ardal yn dal yn gyfyngedig iawn, ac nad yw gwasanaethau i oedolion yn bodoli yn y bôn. Fel aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid ASA lleol, nododd bod gwasanaethau oedolion yn faes sy’n peri pryder yn ogystal â’r ffaith y gallai pob awdurdod lleol golli ei £40,000 y flwyddyn drwy iddo beidio â bod wedi’i neilltuo yn benodol ar gyfer ASD. Ychwanegodd Nicola bod hwn yn gam yn ôl, ac nid yw’n ymddangos bod pobl ag awtistiaeth yn flaenoriaeth bellach.  Gorffennodd drwy ddweud ei bod yn rhwystredig iawn, fel rhiant, am orfod ymladd i’r eithaf dros eich plentyn, iddo gael y gwasanaethau y mae mawr eu hangen arno. Rwy’n edrych tuag at y dyfodol ac nid wyf yn gweld dim gobaith, mae’n amser am newid, ac i roi blaenoriaeth i Awtistiaeth eto.

 

2.5 Soniodd David Malins, sy’n gynrychiolydd oedolion, am yr angen i Gymru gael offeryn cyfreithiol, statudol i sicrhau cysondeb a chefnogaeth. Dywedodd fod pobl ag awtistiaeth yn haeddu gofal cyfartal ac mae arnom angen Deddf Awtistiaeth yng Nghymru.

 

 2.6 Mae Marie James, yn cynrychioli NAS Sir Gaerfyrddin, ac roedd yn siarad hefyd ar ran cangen NAS Sir Benfro, sydd gyda’i gilydd, yn helpu i gefnogi 500 o aelodau. Dywedodd hi fod y strategaeth yn addo i gyflawni cymaint ond mae pobl yn dal i ymdrin â phroblemau o ran diagnosis, pontio, addysg a gofal i oedolion heddiw. Mae pobl yn cael eu gwthio i argyfwng gwaeth. Dywedodd fod pobl ag awtistiaeth yn haeddu’r cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth briodol er mwyn cyflawni eu potensial. Dyna pam, meddai, bod ein canghennau yn galw am Ddeddf Awtistiaeth.

 

2.7 Dywedodd Rhiannon Thomas, rhiant i berson ag awtistiaeth sy’n mynd drwy’r cyfnod pontio, fod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella’r gefnogaeth ar gyfer oedolion ag awtistiaeth.

 

2.8 Addawodd Mark Isherwood roi ei gefnogaeth i Ddeddf Awtistiaeth, pe bai’r Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn mynnu hynny. Roedd pleidlais y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf. Roedd nifer o ACau hefyd yn cefnogi ymgais Mark Isherwood i gynnal Dadl Aelodau Annibynnol ar y materion hyn..  

 

3 Materion a godwyd

Dywedodd William Powell AC, yn dilyn cyfarfod brys gyda Chyngor Sir Powys, y byddent yn ystyried neilltuo £40,000 yn wirfoddol.

 

Gofynnodd aelod o’r gynulleidfa a oedd unrhyw siawns o newid meddwl y Llywodraeth Cymru o ran neilltuo arian? Awgrymodd Mark Isherwood AC ei bod yn hanfodol fod pobl yn dweud eu dweud cyn y bleidlais derfynol, drwy gysylltu â’u Haelodau Cynulliad.

 

Nododd Aled Roberts AC yn glir bod cael gwared ar neilltuo arian yn digwydd o ganlyniad i gytundeb rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar grantiau wedi’u neilltuo. Cytunodd Mark Isherwood fod y Llywodraeth yn gweithredu ar y sail hon, ond ei bod yn dewis cadw rhai grantiau ar draul rhai eraill.

 

 

4. Camau Gweithredu

Mae’n ymddangos nad yw AGGCC neu Gyngor Gofal Cymru yn caniatáu i gwmnïau gofal preifat gofrestru fel unig ddarparwyr gwasanaethau awtistiaeth, sy’n gorfodi dewis rhwng Anabledd Dysgu neu Iechyd Meddwl. Mae hyn yn arwain at fonitro hyfforddiant annigonol ac amhriodol. Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at y Gweinidog am eglurhad.

 

 

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 14 Ionawr 2014, 12:15-13:15pm